Site Sections

Llyn Cerrig Bach: Llyn Llawn Trysor

Llyn Cerrig Bach © Mick Sharp

Gweld Gwybodaeth Ymweld

Mae Llyn Cerrig Bach ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, rhwng Rhosneigr a'r Fali, ar dir wrthlaw maes awyr yr RAF.

I gyrraedd yno mewn car: Ewch ar yr A55 at gyffordd 4. Ewch y eich blaen drwy bentref Llanfihangel yn Nhowyn - dros bont reilffordd, trowch i'r dde a pharciwch ym maes parcio "gwylwyr awyrennau" y maes awyr.  Cerddwch am ychydig gannoedd o lathenni ac fe ddewch at faen coffa mawr a roddwyd wrth ymyl y ffordd ger y fynedfa at Lyn Cerrig Bach.  Mae hyn gyferbyn â giât sy'n cael ei reoli 24 awr y dydd gan warcheidwaid y maes awyr.

Cyfleusterau cyfagos: Mae Gwesty Cymyran wedi ei leoli o amgylch y troad ychydig gannoedd o lathenni o Lyn Cerrig Bach tuag at Fae Cymyran. Gweinir diodydd a phrydau bwyd yma.  Ffôn: 01407 742858; www.hotelcymyran.com

Galwch ef yn ffawd, neu'n ewyllys Duw, neu'n syml yn lwc eithriadol. Weithiau mae pobl gyffredin yn baglu ar draws cyfleoedd anghyffredin - ac mae'r ffordd y maent yn ymateb yn gallu newid llwybr bywydau neu hyd yn oed genhedloedd.

Digwyddodd ym Môn ym 1943.William Owen Roberts

Cyn yr Ail Ryfel Byd, roedd William Owen Roberts, fy nhad, yn ddyn cyffredin, yn geidwad y lawnt ar gwrs golff lleol. Ond pan ddaeth y rhyfel a Gweinyddiaeth Trafnidiaeth y Rhyfel angen ehangu Maes Awyr Valley gerllaw, galwodd ar fy nhad i arwain criw'r tir, i helpu i sefydlu'r tir tywodlyd ac ymestyn y rhedfeydd fel y gallai'r awyrennau mawr o America lanio.

Fy nhad sylwodd gyntaf ar y gadwyn sy'n awr mor enwog.

Cadwyn ryfeddol o gryf

Wrth garthu pwll am fawn, aeth lori yn sownd yn y mwd. I'w dynnu allan, rhoddwyd rhaff weiren yn sownd yn ei bymper ond torrodd y rhaff yn fuan iawn. A'r un nesaf. Yna gwelodd fy nhad hen gadwyn yn gorwedd yn y mwd. Bachodd y dynion honno, ac allan â'r lori. Fe fuont yn defnyddio'r gadwyn drosodd a throsodd y diwrnod hwnnw, ac ni thorrodd unwaith.

Ar ddiwedd y dydd, edrychodd fy nhad yn fanylach ar y gadwyn gref iawn hon. . Roedd yn eithriadol o drom ac anarferol. Roedd iddi bum dolen fawr wedi eu cysylltu â llawer o ddolenni llai.

 

LCB slave chain

Rywsut, mewn maes awyr prysur yng nghanol rhyfel byd, sylwodd fy nhad ar y manylion hyn a phenderfynu archwilio ymhellach - ac yn y broses, gwnaeth un o ddarganfyddiadau archeolegol mwyaf yr ugeinfed ganrif.

Gyda'r gadwyn dros ei feic, cerddodd fy nhad filltir i'r swyddfa yr oedd yn ei rhannu gyda pheiriannydd preswyl y maes awyr, Mr J. Jones. Gyda'i gilydd, astudiodd y ddau'r gadwyn. Gwnaethant ddiagram ohoni ac ysgrifennu llythyr amdani i'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

A rhuthrodd pennaeth yr amgueddfa draw

Pan welodd Syr Cyril Fox, prif guradur yr amgueddfa, y llythyr hwnnw, aeth ar drên a dod yn syth i Fôn. Nododd ei bod yn gaethgadwyn, fyddai'n cael ei defnyddio i gysylltu pump o gaethweision neu garcharorion gyda'i gilydd, gerfydd eu gyddfau. 

Ac mae'n debyg ei bod 2,000 o flynyddoedd oed.

Aeth fy nghad â Syr Cyril i'r fan lle'r oedd wedi dod o hyd i'r gadwyn. Yr oedd wedi dod fwyaf tebyg o'r mawn a lusgwyd o waelod y pwll o'r enw Llyn Cerrig Bach. Yna, nododd Syr Cyril rai arteffactau eraill a ganfuwyd yn y mawn, o'r un cyfnod, sef yr Oes Haearn. Wedi iddo adael, aeth y gwaith yn ei flaen, ond cadwodd fy nhad ei lygaid yn agored am fwy o eitemau.

Achub 180 o eitemau amhrisiadwy ar gyfer y genedl

Am nifer o wythnosau, bu'r gweithwyr yn carthu'r pwll, yn hel twmpathau o fawn o'i waelod a'u gosod allan i sychu. Wrth iddynt wneud hyn, dechreuodd trysorau hynafol eraill godi i wyneb y mawn - cleddyf haearn, darn o utgorn, plac a both tarian wedi eu gwneud o efydd, genfa ceffyl, teiar cerbyd, bariau cyfredol, gefeiliau gof a llawer o ddarnau eraill.

LCB hoard

Dechreuodd y stori ledaenu o gwmpas yr ardal, a dechreuodd torfeydd hel ar y safle i weld arteffactau eraill yn ymddangos o'r llyn. Yn poeni y byddai'n eu colli i ysbeilwyr, cymerodd fy nhad gyfrifoldeb. Parhaodd gyda'r gwaith hwn am tua phedair blynedd.

Dechreuodd gasglu'r darnau, eu lapio mewn sachliain a mynd â hwy adref gan eu cario dros flaen ei feic. Yna lapiodd nhw mewn papur newydd, eu selio mewn hen focsys orennau a'u hanfon i'r amgueddfa yng Nghaerdydd.

Erbyn hyn (tua 1947) roeddwn yn 12 oed. Rwy'n cofio'n glir un noson pan oeddwn yn eistedd wrth fwrdd y gegin, yn helpu fy nhad i lapio darnau rhyfedd o haearn mewn papur newydd, yn gwneud tri pharsel trwm. Y diwrnod wedyn, dydd Sadwrn, rhoddodd fy nhad un o'r parseli hyn i mi eu cario (tra'r oedd fy nhad yn cario'r ddau arall) am y daith filltir o hyd i orsaf drenau Rhosneigr. Aethom ar y trên i Fangor, a cherdded y ddwy filltir arall i fyny allt hir gyda'n llwyth trwm, i adael yr arteffactau yn ddiogel yn Amgueddfa Bangor (ar Ffordd y Coleg bryd hynny). Roedd fy nhad eisiau i rywfaint o'r arteffactau aros yma yng ngogledd Cymru, ond yn fuan gofynnodd yr Amgueddfa Genedlaethol i ni eu hanfon i gyd i Gaerdydd.

Yn gyfan gwbl, llwyddodd fy nhad i gasglu a chadw nifer o eitemau o Lyn Cerrig Bach, oll yn dyddio yn fras o 300 CC hyd 100 OC. Gyda'r cyfan yn awr wedi eu cartrefu yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, y casgliad yw'r darganfyddiad Oes Haearn mwyaf erioed yng Nghymru. Mae'n cystadlu mewn maint a phwysigrwydd â'r darganfyddiadau enwog o La Tène yn y Swistir.

Ond beth mae'n ei olygu?LCB watersplash

Pam yr oedd gymaint o hen bethau amhrisiadwy ar waelod un pwll anghysbell ym Môn?

Hyd heddiw, nid yw'r arbenigwyr yn siŵr. Mae'r rhan fwyaf yn credu bod yr hen Geltiaid yn addoli duwiau dŵr, ac felly yn cynnig eitemau gwerthfawr i lynnoedd ac afonydd er mwyn tawelu ac erfyn ar dduwiau a duwiesau lleol. O farnu o'r swm uchel o eitemau annhebyg, y rhan fwyaf yn filwrol, yn Llyn Cerrig Bach, mae rhai arbenigwyr yn cynnig bod addolwyr yn teithio pellteroedd mawr i ddod at y llyn. Oedd o efallai i gynnig arfau cyn neu wedi brwydr?

Mae rhai archeolegwyr hyd yn oed wedi awgrymu offrwm mewn crynswth oedd llawer ohonynt. Beth petai'r Celtiaid wedi gweld lleng filwrol anferth y Rhufeiniaid yn dod drosodd i Fôn yn 60 OC? Yn eu hofn, a oeddent wedi gafael yn eu pethau mwyaf gwerthfawr, a'u taflu i'r dŵr fel offrwm i'w duwdod?

Dyn cyffredin, etifeddiaeth anghyffredin

Erbyn hyn, mae Llyn Cerrig Bach wedi dod yn enwog, nid yn unig yn y wlad hon ond ar draws y byd. Rwy'n falch iawn bod y ffaith hon yn gyfan gwbl ddyledus i'm tad, William Owen Roberts, a wnaeth y penderfyniad i garthu'r man corslyd hwn am fawn ar sail ei wybodaeth o'r tirwedd lleol.

Yn ystod y gwaith, roedd hefyd wedi sylwi ar bwysigrwydd cadwyn a oedd wedi cael ei dadorchuddio yn ystod y dydd. Pe na bai wedi gwneud y pethau hyn, byddai cyfoeth o hanes yn anhysbys i ni.

Heddiw rydw i'n dal i fyw ger Rhosneigr, ddim yn bell o Lyn Cerrig Bach. Ers ymddeol dros 20 mlynedd yn ôl, rwy'n treulio'r rhan fwyaf o'm hamser yn siarad, addysgu a blogio am Lyn Cerrig Bach - ac yn sôn am fy nhad, y dyn cyffredin a ddarganfu (ac a amddiffynnodd) drysor cenedlaethol.


blog comments powered by Disqus